Datganiad hygyrchedd

Caiff y gwasanaeth hwn ei ariannu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Rydyn ni eisiau i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 300% heb i'r testun lifo oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydyn ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor hawdd ei ddeall ag sy’n bosibl.

AbilityNet mae ganddo gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â lefelau A, AA ac AAA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We - WCAG 2.1.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydyn ni bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e-bost at online-support@justice.gov.uk.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).

Os nad ydych chi’n fodlon ar sut rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at online-support@justice.gov.uk

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 19 Mai 2023.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 12 Ebrill 2023. Cynhaliwyd y prawf gan UserVision.