Hysbysiad preifatrwydd
Darperir y gwasanaeth ‘Gwneud cais am gymorth cyfreithiol troseddol’ gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (LAA), sy’n rhan o’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ymdrin â sut mae'r gwasanaeth hwn yn casglu data personol gan ddarparwyr sy'n cyflwyno gwybodaeth ar ran eu cleientiaid.
I gael manylion sut mae'r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol yn casglu ac yn rheoli'r data personol a gyflwynir yn y cais, edrychwch ar hysbysiad preifatrwydd yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.
Pa ddata rydyn ni’n ei gasglu
Rydyn ni’n casglu:
- eich manylion mewngofnodi a rhif cyfrif swyddfa ar gyfer gwasanaethau cymorth cyfreithiol a ddarperir gan yr LAA
- eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP)
- ffeiliau o’r enw cwcis i gadw eich cynnydd presennol ar eich dyfais ac i dracio cyfnodau segur
Ein sail gyfreithiol dros brosesu’ch data
Y sail gyfreithiol dros brosesu data personol mewn perthynas â diogelwch y wefan yw ein buddiannau dilys ni a buddiannau dilys ein defnyddwyr, i sicrhau diogelwch ac uniondeb y gwasanaeth hwn.
Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’ch data
Ni fydd unrhyw wybodaeth a roddwch yn cael ei rhannu y tu allan i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, heblaw gyda darparwyr TG y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n darparu gwasanaethau sy’n helpu i redeg y gwasanaeth hwn.
Ni fyddwn yn gwneud y canlynol:
- gwerthu na rhentu data i drydydd partïon
- rhannu data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
Am ba mor hir y byddwn yn cadw’ch data
Byddwn ond yn cadw’ch data cyhyd ag y bydd ei angen at y dibenion a nodir ar y dudalen hon.
Byddwn yn cadw cofnodion cryno hirdymor o gysylltiadau â'r gwasanaeth, ond mae’r cofnodion hyn yn gwbl ddienw.
Caiff hyn ei reoli yn unol â rhestrau cadw a gwaredu Cofnodion Pencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Ble caiff eich data ei brosesu a’i storio
Rydyn ni’n dylunio, yn creu ac yn rhedeg ein systemau i wneud yn siŵr bod eich data mor ddiogel â phosibl ym mhob cam, pan gaiff ei brosesu a phan gaiff ei storio. Caiff yr holl ddata personol ei brosesu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Sut rydyn ni’n diogelu’ch data ac yn ei gadw’n ddiogel
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw’ch data’n ddiogel. Rydyn ni wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad neu ddatgelu’ch data heb awdurdod - er enghraifft, rydyn ni’n diogelu’ch data gan ddefnyddio lefelau amrywiol o amgryptio.
Cysylltu â ni neu wneud cwyn
Cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at online-support@justice.gov.uk os ydych chi:
- yn cael cwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
- yn meddwl bod eich data personol wedi cael ei drin neu ei ddefnyddio’n amhriodol
Swyddog Diogelu Data (DPO)
Gallwch hefyd gysylltu â’n DPO:
Data Protection Officer
Ministry of Justice
102 Petty France
London
SW1H 9AJ
Y Swyddog Diogelu Data sy’n arwain ar bob agwedd ar ddiogelu data ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Y Comisiynydd Gwybodaeth
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cydymffurfio â’r gyfraith. Os ydych chi’n credu bod eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei thrin yn anghywir, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth i gael cyngor annibynnol ar ddiogelu data:
Ffôn: 0303 123 1113
Ffôn testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 4:30pm
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF
Newidiadau i’r polisi hwn
Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.
Diweddarwyd ddiwethaf 04 Awst 2025